Torfaen
Asiant Lleol
Catherine Lewis - www.onlyoneworld.co.uk / www.etmoi.co.uk 01291 427262 / 01291 689333 sales@southwalesnappies.co.uk
Natalie Copsey - Asiant lleol am Fill your Pants www.fill-your-pants.com, ring 01633 869575, 07727 699437 neu ebost nataliec2009@live.com am fwy o gwybodaeth.
Rebecca Emmerson - Fill Your Pants ewch i www.realnappyguru.co.uk neu e bost cardiffnappyguru@gmail.com
Stocwyr Annibynnol
Sarah Jane Plant - Daizy Babies Limited ewch i www.daizybabies.com, ffoniwch 01773 318 068 neu e bost info@daizybabies.com
Gwasanaeth Golchi
South Wales Nappies
48 Lapwing Avenue
Caldicot
Monmouthshire
NP26 5RN
01291 427262 / 01291 689333
Am fwy o wybodaeth ewch i www.southwalesnappies.org.uk / www.etmoi.co.uk
Cynllun Cymhelliol
Mae Cyngor Torfaen wedi cychwyn cynllun annog cewynnau go iawn gwerth £30. Bydd hawl gan rieni sy’n byw yn Nhorfaen i gael taleb werth £30 oddi ar gost prynu cewynnau go iawn gan y ddau gyflenwr lleol sy’n gwasanaethu Torfaen. Er mwyn manteisio ar y cynllun, mae’n rhaid i rieni gysylltu ag un o’r asiantau a restrir uchod er mwyn gwneud cais am y daleb. Neu argraffwch y daleb yma a’i rhoi i’r cyflenwr lleol.
Cynlluniau Undeb Credyd
Bydd cewynnau go iawn yn arbed arian i chi dros gyfnod ond mae angen arian i gychwyn; ffordd dda o osgoi'r gost gychwynnol hon yw benthyca gan eich undeb credyd lleol. Maen nhw'n rhoi benthyciadau cost isel at unrhyw bwrpas ac mae'n ffordd wych o brynu'r holl gewynnau go iawn sydd eu hangen arnoch heb dorri'r banc. Caiff benthyciadau eu had-dalu'n wythnosol neu'n fisol yn ôl eich dewis.
Undeb Cerdyd Gateway Cyf
I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Bwrdeistrefi Sirol Tor-faen neu Sir Fynwy. Mae 2 fath o fenthyciad ar gael wedyn. Benthyciad ‘save as you borrow’ lle y mae'n rhaid eich bod wedi cynilo am leiafswm o 8 wythnos. Rydych chi wedyn yn gymwys i fenthyca tair gwaith eich cynilion. Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 heb ei warantu a gaiff ei ad-dalu dros 12 mis yn costio o gwmpas £4.09 yr wythnos.Mae 'benthyciad cyfleus' hefyd ar gael ond does dim rhaid i chi gynilo o flaen llaw. Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 heb ei warantu a gaiff ei ad-dalu dros 12 mis yn costio o gwmpas £4.33 yr wythnos.
Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda phob benthyciad.
Mae 6 pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Cerdyd Gateway Cyf, 21 Stryd Commercial, Pont-y-pwl, Tor-faen. NP4 6JQ. 01495 750020. www.gatewaycu.co.uk


