Rhondda Cynon Taf

Asiantaethau Lleol

Rhian Green www.mamigreen.co.uk - 029 20 842038 / 07855 359130 neu e bost post@mamigreen.co.uk

Beth Wilson - Babykind 01443 710369 / 07977 151935 www.babykind.co.uk

Rebecca Emmerson - Fill Your Pants ewch i www.realnappyguru.co.uk neu e bost cardiffnappyguru@gmail.com

Stocwyr Annibynnol

Sarah Jane Plant - Daizy Babies Limited ewch i www.daizybabies.com, ffoniwch 01773 318 068 neu e bost info@daizybabies.com

Gwasanaeth Golchi

South Wales Nappies

48 Lapwing Avenue

Caldicot

01291 427262 / 012591 689333

Mae rhannau o RhCT yn dod o dan Wasanaeth Cewynnau De Cymru, am fwy o fanylion ewch i www.southwalesnappies.org.uk:80/laundry.htm / www.etmoi.co.uk

Cynllun Cymhelliol

Yn anffodus, does dim cynllun cymhellol yu yr ardal yma ar hyn o bryd.

Ysbytai Cyfeillgar i Gewynnau Go Iawn

Mae ysbyty Royal Glamorgan wedi’u cymeradwyo fel 'Ysbyty Cyfeillgar i Gewynnau Go Iawn' - byddwch yn gallu dod â’ch cewynnau go iawn eich hunan pan fyddwch chi yno os ydych chi wedi prynu eich cewynnau’n barod. Fel arall, gallwch weld pecyn arddangos o gewynnau sy’n cael ei gadw ar y wardiau i rieni ei weld. Mae’r pecyn yn cynnwys 1 cewyn plyg-parod Swaddlebees, 1 cewyn bambŵ Little Lamb, 1 cewyn Real Easy, 1 cewyn poced Minky, 1 gorchudd gwrth-ddŵr Nature Babies, 1 sychydd golchadwy a chanllawiau i gewynnau a ffabrig printiedig a manylion cyswllt cyflenwr cewynnau go iawn lleol.

Cynlluniau Undeb Credyd

Bydd cewynnau go iawn yn arbed arian i chi dros gyfnod ond mae angen arian i gychwyn; ffordd dda o osgoi'r gost gychwynnol hon yw benthyca gan eich undeb credyd lleol. Maen nhw'n rhoi benthyciadau cost isel at unrhyw bwrpas ac mae'n ffordd wych o brynu'r holl gewynnau go iawn sydd eu hangen arnoch heb dorri'r banc. Caiff benthyciadau eu had-dalu'n wythnosol neu'n fisol yn ôl eich dewis.

Dragon Savers Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae 2 fath o fenthyciad ar gael: y cyntaf i rai sydd wedi ymuno â'r undeb credyd ac sydd wedi cynilo am o leiaf 8 wythnos. Mae hwn yn fenthyciad heb ei warantu. Yn ail benthyciad wedi ei warantu ac mae ar gael unrhyw bryd, gyda'r cyfan o'r benthyciad wedi ei warantu yn erbyn cynilion a gaiff eu cadw o fewn yr undeb credyd.

Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 heb ei warantu a gaiff ei ad-dalu dros flwyddyn yn costio o gwmpas £4.20 yr wythnos. Mae yswiriant bywyd ar gael ar gynilion a benthyciadau undeb credyd heb gost ychwanegol.

Mae mwy na 30 o bwyntiau casglu yn yr ardal lle y gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch chi hefyd dalu trwy archeb sefydlog neu gael eich budd-daliadau wedi'u talu'n syth i'ch cyfrif.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Dragon Savers Ltd, 107, Stryd Bute, Treorchy, CF42 6AU. 01443 777043. www.dragonsavers.org