Canllaw Cewynnau
Mae cewynnau go iawn modern yn ffasniynol, cost effeithiol, ac yn amsugno gwlybaniaeth yn dda, hefy mae'n arbed gwastraff. MAe llawer o batrymau, deunyddiau a lliwiau ar gael, gall hyn gymhlethu pethau. I'ch helpu ddewis y cewyn gorau i chwi a'ch plentyn dyma eglurhad o'r prif fathau:
Cewyn gwastad dwy-ddarn

Mae’r mathau yma o gewynnau yn sychu’n gyflym gan eu bod yn agor allan yn wastad. Maen nhw’n amlbwrpas gan fod modd eu plygu mewn nifer o ffyrdd er mwyn cael amrywiaeth o ran ffit ac amsugnedd.
Plygir cewynnau plyg-parod ac yna eu gosod mewn gorchudd (amlap) gwrth-ddŵr ac maen nhw’n dod mewn nifer o feintiau o newydd-eni i fawr iawn. Gellir defnyddio mwy nag un cewyn yn ystod y nos. Dydy’r gorchudd ddim yn cael ei newid bob tro mae’r cewyn yn cael ei newid, byddwch yn defnyddio tua 1 gorchudd i bob 4/5 cewyn. Mae’r cewynnau hyn yn dod mewn amrywiaeth o liwiau a ffabrigau gan gynnwys cotwm a bambŵ. Os ydych chi’n defnyddio’r math yma o system cewynnau, yna argymhellir i chi brynu o leiaf 20 o bob maint. Mae prisiau yn amrywio o £1.50 i £2.25 y cewyn.
Cyfanswm cost system cewynnau plyg-parod yn defnyddio 3 maint cewyn (bach, canolig a mawr) a 4 maint gorchudd (meintiau gorchudd yw newydd-eni, bach, canolig a mawr) yw tua £295 os byddwch yn prynu popeth ar wahân. Gallwch brynu citiau geni i boti arbennig am tua £175 – £225, fel arfer mae’r citiau yma yn cynnwys 24 Cewyn Plyg-parod Bach, 20 Cewyn Canolig, 18 Cewyn Mawr, 6 Gorchudd Newydd-eni, 6 Gorchudd Bach, 4 Gorchudd Canolig a 4 Gorchudd Mawr. Cofiwch does dim rhaid i chi brynu mwy nag 1 maint ar y tro yn hytrach na phrynu set geni i boti.
Plygir cewynnau terry a’u dal mewn lle gyda phìn neu glip modern o’r enw nappy nippa. Yna, gwisgir gorchudd (amlap) gwrth-ddŵr drosto. Dydy’r gorchudd ddim yn cael ei newid bob tro mae’r cewyn yn cael ei newid, byddwch yn defnyddio tua 1 gorchudd i bob 4/5 cewyn. Fel arfer, mae cewynnau terry yn dod mewn maint safonol 60 x 60cm ond mae ansawdd ac amsugnedd yn amrywio. Gallwch gael rhai llai 40 x 40cm sy’n wych i’r rhai newydd eu geni neu gallwch brynu sgwariau mwslin. Mae cewynnau terry yn dod mewn amrywiaeth eang o liwiau a ffabrigau gan gynnwys cotwm a bambŵ. Os ydych chi’n defnyddio’r math yma o system cewynnau, argymhellir i chi brynu o leiaf 20. Mae prisiau yn amrywio o £1.25 i £3.95 y cewyn.
Cyfanswm cost system cewynnau terry yn defnyddio 2 faint cewyn (40 x 40 a 60 x 60) 3 maint gorchudd (bach, canolig a mawr) a 2 becyn o nappy nippas yw tua £204. Cofiwch does dim rhaid i chi brynu mwy nag 1 maint ar y tro.
Cewyn dau-ran wedi'i siapio
Fel mae’r enw yn ei awgrymu, mae’r cewynnau hyn wedi eu siapio i ffitio yn barod. Mae’r cewynnau yma’n dod heb ddarnau i’w dal ar gau (dim Aplix) a gellir eu dal at ei gilydd gyda nappy nippa, popwyr neu Felcro sy’n eu gwneud ychydig yn fwy defnyddiwr-gyfeillgar na’r cewynnau gwastad ond byddan nhw’n cymryd mwy o amser i sychu na’r cewynnau gwastad gan eu bod nhw’n fwy swmpus. Hefyd, mae angen gorchudd gwrth-ddŵr i fynd dros y cewynnau hyn. Dydy’r gorchudd ddim yn cael ei newid bob tro mae’r cewyn yn cael ei newid, byddwch yn defnyddio tua 1 gorchudd i bob 4/5 cewyn. Mae cewynnau wedi’u siapio yn dod mewn amrywiaeth o liwiau, patrymau a ffabrigau gan gynnwys cotwm, cywarch, microffibr a bambŵ. Os ydych chi’n defnyddio’r math yma o system cewynnau, argymhellir i chi brynu o leiaf 20 o bob maint.
Dim ond 2 faint sy gan y rhan fwyaf o systemau cewynnau wedi’u siapio i ffitio babanod o 7 – 35 pwys fydd yn ddigon i fabi o faint canolig o’i eni hyd at hyfforddiant toiled. Hefyd, gallwch gael meintiau cynamserol a babanod mwy. Mae prisiau yn dechrau o £4.99 y cewyn ond y pris cyfartalog yw tua £9 y cewyn.
Cyfanswm cost system cewynnau wedi’u siapio – ar gyfartaledd – yn defnyddio 2 faint cewyn, 2 faint gorchudd a dim nappy nippas yw tua £444 os byddwch yn eu prynu ar wahân. Mae bob amser gynigion ar swmp-brynu cewynnau felly ewch i nifer o siopau i gael y pris gorau. Cofiwch does dim rhaid i chi brynu mwy nag 1 maint ar y tro.
Mae modd cael cewynnau wedi’u siapio fel cewynnau un maint. Un maint yn unig yw’r cewynnau yma ac fel arfer maen nhw’n addas o tua 8 – 35 pwys. Er mwyn iddyn nhw ffitio babi bach, mae’r cewynnau yma yn cael eu plygu i lawr yn y blaen ac yn cael eu dal mewn lle gan naill ai orchudd gwrth-ddŵr, popwyr neu nappy nippa. Mae cewynnau un maint yn arbed arian ond maen nhw braidd yn swmpus ar fabanod bach a gall fod angen ychwanegu mwy o amsugnedd pan fydd y babi’n fwy. Mae prisiau yn dechrau o tua £7.50 y cewyn.
Cyfanswm cost system cewynnau un maint wedi’u siapio - ar gyfartaledd - yn defnyddio 2 faint gorchudd a dim nappy nippas yw tua £244. Cofiwch does dim rhaid i chi brynu mwy nag 1 maint gorchudd ar y tro.
Cewyn Poced
Mae cewynnau poced yn dod mewn 2 ran; y gyntaf yw’r rhan allanol sydd wedi’i gwneud o haen sy’n dal dŵr a’r rhan fewnol yn fflîs. Rhwng yr haenau hyn mae ‘poced’ lle rydych chi’n gosod yr ail ran, ychydig o amsugnedd a all fod yn ychwanegyn i’r cewyn, yn blyg-parod neu’n gewyn terry neu ffabrig arall. Bellach, mae’r cewyn yn barod i’w ddefnyddio ac yn cael ei ffasno gyda Felcro neu bopwyr. Does dim angen gorchudd gwrth-ddŵr gan fod un wedi’i gynnwys mewn cewynnau poced. Pan fyddwch yn newid eich babi, mae’r cewyn cyfan yn mynd i’r bwced yn barod i’w olchi ac mae un arall yn mynd arno. Mae’r cewynnau hyn yn ddefnyddiwr-gyfeillgar iawn ac unwaith maen nhw wedi cael eu stwffio ag amsugnedd, maen nhw'r un mor hawdd â rhai tafladwy i’w defnyddio. Mae cewynnau poced yn hyblyg i’w defnyddio gan fod modd i chi ychwanegu amsugnedd ychwanegol yn ystod y nos neu os yw’ch babi yn gwlychu’n drwm.
Mae’r rhan fwyaf o gewynnau poced yn cael eu gwneud gan haen PUL (Laminiad Polywrethan) wedi’i gorchuddio naill ai â microfflîs neu felôr cotwm y tu mewn. Mae microfflîs a felôr yn gweithredu fel ffabrig un ffordd sy’n gadael i leithder basio trwyddynt gan aros yn sych wrth groen y babi. Mae modd defnyddio’r rhan fwyaf o ffabrigau fel deunydd amsugno ond y rhai mwyaf poblogaidd yw bambŵ, cywarch a micro ffibr. Gallwch naill ai brynu ychwanegion parod i gewynnau neu ffabrig fesul metr a gwneud eich rhai eich hunain. Y cyfan sydd angen ei wneud yw torri’r ffabrig yn sgwariau 60 x 60cm, ei hemio a’i blygu i ffitio y tu mewn i’r poced.
Mae cewynnau poced ar gael mewn llawer o feintiau gwahanol o gynamserol i fawr iawn. Bydd y rhan fwyaf o fabanod â phwysau canolig yn gallu defnyddio 2 neu 3 maint cewyn yn unig gan ddibynnu ar y brand. Mae prisiau yn dechrau o tua £9.99 y cewyn heb ychwanegyn a £13 gydag ychwanegyn. Gan fod cewynnau poced yn sychu’n gynt na chewynnau eraill, rydym yn argymell i chi brynu o leiaf 15 o bob maint.
Cyfanswm cost defnyddio 2 faint cewyn (ystod pwysau 10-35 pwys) yw tua £300. Cyfanswm cost defnyddio 3 maint cewyn (ystod pwysau 7- 45 pwys) yw tua £540. Cofiwch does dim rhaid i chi brynu mwy nag 1 maint ar y tro.
Mae cewynnau poced yn dod fel cewynnau un maint hefyd. Un maint yn unig yw’r cewynnau yma ac fel arfer maen nhw’n addas o tua 8 – 35 pwys. Er mwyn iddyn nhw ffitio babi bach, mae’r cewynnau yma yn cael eu plygu i lawr yn y blaen ac yn cael eu dal mewn lle gan bopwyr. Mae cewynnau un maint yn arbed arian ond maen nhw braidd yn swmpus ar fabanod bach. Mae prisiau yn dechrau o tua £14 y cewyn.
Cyfanswm cost system cewynnau poced un maint ar gyfartaledd yw tua £210.
Cewyn Un-darn
Mae’r cewynnau yma wedi eu gwneud o ddefnydd amsugnol wedi’i bwytho i orchudd allanol gwrth-ddŵr - does dim darnau datgysylltiol. Mae cewynnau un-darn yn cael eu gosod gan ddefnyddio naill ai bopwyr neu Felcro i’w cysylltu ac yna mae’r cewyn cyfan yn cael ei roi yn y golch. Mae’r math yma o gewyn yn hawdd iawn ei ddefnyddio gyda ffit fach daclus. Efallai bydd angen ychwanegu atyn nhw yn ystod y nos ac i rai sy’n gwlychu’n drwm. Yr unig anfantais yw nad ydyn nhw’n sychu mor gyflym â mathau eraill o gewynnau. Mae cewynnau un-darn yn dod mewn amrywiaeth eang o ffabrigau, lliwiau a phatrymau. Os ydych chi’n defnyddio’r math yma o system cewynnau, argymhellir i chi brynu o leiaf 20 o bob maint.
Fel arfer, mae cewynnau un-darn ar gael mewn 3 maint bach, canolig a mawr i ffitio babanod o tua (8 – 40 pwys) er bod dewis cyfyngedig o gewynnau un-darn un maint ar gael sy’n addas o 8-35 pwys. Mae prisiau am gewynnau un-darn mewn meintiau yn dechrau o £12 a rhai un maint o £15.
Cyfanswm cost defnyddio 2 faint cewyn (ystod pwysau 10-35 pwys) yw tua £480. Cyfanswm cost defnyddio 3 maint cewyn (ystod pwysau 7- 40 pwys) yw tua £900. Cofiwch mai dim ond 1 maint ar y tro mae’n rhaid i chi ei brynu. Cyfanswm cost defnyddio system un maint (ystod pwysau 8 – 35 pwys) yw tua £300.
Mae llawer o frandiau o gewynnau ar gael – teipiwch y math o gewyn yr ydych chi’n ei hoffi i’ch peiriant chwilio ar y we i gael mwy o fanylion.


