Golchi

Does dim angen socian, berwi, crafu na'u golchi ar 95oC. Efallai bydd angen socian cewynnau babanod sydd heb gael eu diddyfnu.

Gallwch gadw cewynnau mewn golch ar wahân, neu os ydych chi'n defnyddio leinin gallwch eu golchi gyda golch gweddill y teulu ar 40 neu 60oC. Gellir fflysio leinin bioddiraddadwy lawr y toiled, neu gellir golchi leinin golchadwy gyda gweddill y cewynnau.

Mae peiriannu golchi modern yn golchi ddigon safonol i beidio gorfod diheintio'r cewynnau.

Gellir sychu mwyafrif o gewynnau ar y lein neu ei sychu ar hors ddillad mewn stafell gynnes.