Canllaw Ffabrig
Mae cynhyrchwyr cewynnau go iawn yn defnyddio llawer o ffabrigau gwahanol i wneud cewynnau go iawn felly dyma ganllaw fach gyflym i rai o’r mathau o ffabrig sydd ar gael.
Cotwm
Dyma’r dewis ffabrig traddodiadol ar gyfer cewynnau go iawn ac mae wedi cael ei ddefnyddio am flynyddoedd lawer ac yn dal yr un mor boblogaidd heddiw. Mae cotwm yn amsugnol ac yn para’n dda; mae modd ei olchi ar dymheredd uchel dros ben ac mae’n cael ei ddefnyddio bron yn ddieithriad gan wasanaethau golchi cewynnau. Gall fynd ychydig yn llonydd ar ôl ei olchi (gall sbel fach gyflym yn y peiriant sychu dillad ddatrys hyn) a gall gymryd ychydig yn fwy o amser i sychu na rhai ffabrigau gwneud. Mae cotwm yn dod mewn llawer o liwiau gwahanol, heb ei gannu ac yn organig.
Ffeithiau am gotwm:
- Mae’n anadlu’n hawdd oherwydd adeiladwaith ei ffibr ac mae’n cadw’r corff yn ddigon oer yn yr haf ac yn gynnes yn y gaeaf gan ei fod yn dargludo gwres yn dda.
- Mae gan gotwm gyfradd amsugno uchel ac mae’n dal 27 gwaith ei bwysau ei hun mewn dŵr.
Gwaetha’r modd mae cotwm yn agored i nifer o blâu felly defnyddir plaleiddiaid, ffwngleiddiaid a gwrteithiau yn eang a gall gweddillion aros yn y ffabrig. Tyfir cotwm organig heb gemegau ac felly nid yw’n gwneud niwed i’r amgylchedd na’r gweithwyr. Tyfir cotwm organig gan ddefnyddio dulliau a defnyddiau sydd yn cael effaith isel ar yr amgylchedd.
Mathau o ffabrig cotwm:
Wedi’i wehyddu – Yn llyfn ar y ddwy ochr ac yn amsugnol iawn.
Ffabrig terry - Peil dwfn ac amsugnol iawn.
Ffabrig gwlanen – Yn llyfn ar un ochr, ychydig yn wlanog ar y llall.
Ffabrig felôr – Ffabrig wedi’i wau yw felôr gyda dolennau mân ar un ochr sydd wedi eu llyfnu. Mae felôr yn ffabrig mwy 'bregus'. Fel arfer, ychwanegir polyester i sicrhau llai o bannu, cynyddu gwydnwch a rhwystro’r ffabrig rhag colli siâp ond mae Felôr cotwm 100% ar gael.
Mwslin - math o ffabrig cotwm wedi’i wehyddu’n fain. Yn nodweddiadol, mae mwslin yn lliain gwead clos heb ei gannu neu’n wyn, wedi’i gynhyrchu o edau cotwm cordynnog.
Bambŵ
Mae’n cael ei nabod fel cnwd gwyrdd ac felly mae’n ffabrig poblogaidd iawn i wneud cewynnau go iawn. Mae gan fambŵ gylchred tyfu cyflym iawn ac mae angen llai o ddŵr arno na chotwm a dim plaleiddiaid er mwyn tyfu. Defnydd amsugnol iawn yw bambŵ ac fe all ddal hyd at 60% mwy o leithder na chotwm. Mae’n ffabrig meddal iawn, yn naturiol yn wrthfacterol a bydd yn aros yn feddal ar ôl ei olchi. Anfanteision bambŵ yw y gall gymryd llawer hwy na chotwm i sychu ac nid yw’n hoff o wres uniongyrchol felly ni chymeradwyir sychu eich cewynnau bambŵ ar y rheiddiadur.
Ffeithiau am fambŵ:
- Dyma’r gwair sy’n tyfu gyflymaf ac fe all saethu i fyny lathen neu fwy y dydd ac nid oes angen ei ailblannu ar ôl ei gynaeafu achos mae ei rwydwaith helaeth o wreiddiau yn blaguro egin newydd yn barhaus.
- Mae ffibr bambŵ 100% yn fioddiraddadwy.
Mae’r prosesau cynhyrchu lle mae’r planhigyn bambŵ yn cael ei drawsffurfio’n ffabrig bambŵ yn golygu bod apêl ecogyfeillgar bambŵ a’i gynaladwyedd yn cael eu difetha oherwydd y cemegau trwm sydd eu hangen yn aml.
Mathau o ffabrig bambŵ:
Terry bambŵ - Ffabrig terry â gwead sidanaidd wedi’i wehyddu gyda dolennau bambŵ wedi’u mewnosod mewn sylfaen bolyester (fel arfer 90% Bambŵ 10% Polyester).
Jyrsi bambŵ – ddim yn addas ar gyfer cewynnau go iawn.
Felôr bambŵ – Ffabrig wedi’i wau gyda dolennau mân ar un ochr sydd wedi eu llyfnu i greu arwyneb fel melfed. Mae cotwm yn ychwanegu cryfder i’r ffabrig yma ac yn ei rwystro rhag colli siâp.
Fflîs bambŵ – Mae’n hynod o feddal ac yn wlanog ar ôl mynd trwy beiriant er mwyn creu ei wead meddal (70% bambŵ; 30% cotwm).
Cywarch
Mae cywarch yn ddefnydd amsugnol iawn arall a ddefnyddir i wneud cewynnau go iawn ac mae tag mwy gwyrdd yn perthyn iddo na ffabrigau eraill. Fel cnwd, nid oes angen plaleiddiaid na gwrtaith ac mae’n un o’r ffibrau ffabrig mwyaf ecogyfeillgar y gwyddom amdano. Mae’n cael ei ddefnyddio fel ffabrig ar gyfer ychwanegion yn fwy na chewynnau gan fod cywarch yn gallu mynd braidd yn anystwyth ar ôl ei olchi. Hefyd, nid yw cywarch yn gweithio mor gyflym â rhai ffabrigau ac weithiau mae ar ei orau ar ôl cael ei gymysgu â ffabrig arall sy’n gweithio’n gyflym fel microffibr. Mae Cywarch Naturiol yn ffibr garw ond o’i gyfuno â chotwm, mae’r gwead yn cael ei feddalu heb gyfaddawdu o ran ei amsugnedd.
Ffeithiau am gywarch:
- Ystyrir cywarch yn gnwd cynnyrch uchel sydd yn dwyn swm sylweddol fwy o ffibr y droedfedd sgwâr na chotwm.
- Mae cywarch yn amsugno mwy o ddŵr na chotwm a’i gryfder tynnol 3 gwaith yn fwy.
Mathau o ffabrig cywarch:
Fflîs cywarch – Mae’r fflîs yn wlanog ar ôl mynd trwy beiriant er mwyn creu ei wead meddal, blewog (55% cywarch 45% cotwm organig).
Jyrsi cywarch - ddim yn addas ar gyfer cewynnau go iawn.
Terry cywarch – Mae Terry Ymestyn Cywarch yn 47% cywarch; 38% cotwm organig; 15% polyester gyda dolennau mân ar un ochr. Mae gan y ffabrig yma geden uchel o ddolennau mân ar un ochr wedi’u mewnosod mewn sylfaen wedi’i gwau sydd yn wastad ar yr ochr arall.
Microffibr
Mae microffibr yn ddefnydd gwneud o ffibrau wedi’u cyfuno i ffurfio edafedd. Defnyddir microffibr ar gyfer cewynnau go iawn achos bod y defnydd microffibr yn sugno lleithder i ffwrdd o’r corff gan gadw’r croen yn glaear ac yn sych. Hefyd, mae’n ffabrig sy’n gweithio’n gyflym iawn ac oherwydd y ffordd y mae’n dal lleithder rhwng ei ffibrau yn hytrach nag ar yr wyneb, mae’n sychu’n gyflym. Defnyddir microffibr i wneud ychwanegion cewynnau a chewynnau; nid yw mor amsugnol â rhai ffabrigau naturiol ond mae modd ei ddefnyddio ar y cyd â’r defnyddiau hyn i wella ei amsugnedd.
Ffeithiau am ficroffibr:
- Mae’n rhwystro bacteria rhag tyfu oddi mewn i’r ffabrig.
- Er bod llawer o ficroffibrau’n cael eu gwneud o bolyester, gallan nhw gael eu gwneud o bolyamid (neilon) neu bolymerau eraill hefyd.
Nid yw microffibrau’n cael eu gwneud o adnodd adnewyddadwy a dydyn nhw ddim yn fioddiraddadwy.
Fflîs
Mae fflîs yn synthetigyn wedi’i wneud o 100% ffabrig polyester. Nid yw fflîs yn amsugno gwlybaniaeth ond mae’n sugno’r lleithder. Mae’n anadlu, yn ysgafn ac yn sychu’n gyflym sydd yn ei wneud yn ffabrig gwych ar gyfer cewynnau go iawn. Mae fflîs yn cael ei ddefnyddio mewn cewynnau go iawn naill ai fel leiner neu leinin neu fel gorchudd (amlap) allanol. Fel leiner mae Microfflîs yn cael ei ddefnyddio fel arfer gan mai dyma’r math mwyaf ysgafn o fflîs sydd ar gael. Mae Microfflîs yn ffabrig fflîs meddal tenau ac ysgafn fydd yn sugno lleithder o’r croen a thrwy hynny, yn cadw croen y babi’n sych. Hefyd, defnyddir fflîs fel gorchudd (amlap) allanol, mae gorchuddion fflîs yn gadael i leithder anweddu gan gadw’r rhan o gwmpas y cewyn yn glaear. Mae’n well defnyddio gorchuddion fflîs yn ystod y nos ac maen nhw’n ardderchog i fabanod â chroen sensitif iawn neu ag anhwylderau croen fel ecsema. Mae’n hawdd iawn gofalu am fflîs ac mae’n sychu’n gyflym iawn.
Ffeithiau am fflîs:
- Mae fflîs yn ddewis fegan yn lle gwlân a all gael ei wneud yn gyfan gwbl o boteli plastig wedi eu hailgylchu.
- Mae Microfflîs yn gwrthsefyll staenio ac nid yw’n dal ymgarthion fel y gall ffabrigau eraill ei wneud. Y cyfan sy ei angen yw eu siglo i lawr y toiled.
Manteision eraill defnydd fflîs yw ei fod yn gyfforddus iawn oherwydd ei bwysau ysgafn a’i wneuthuriad gwrth-chwysu. Mae defnydd fflîs yn gadael i’r lleithder anweddu ac ar yr un pryd yn gwrthod gadael i leithder o’r tu allan dreiddio i mewn. Rhai o anfanteision fflîs yw ei fod yn fflamadwy iawn a’i fod yn cynhyrchu statig.
Gwlân
Defnyddir gwlân yn eang ar gyfer gorchuddion allanol oherwydd ei briodweddau unigryw. Mae gwehyddiad y ffabrig yn gadael i wlân sugno lleithder o’r corff a’i ryddhau yn yr awyr gan adael y croen yn glaear. Mae gwlân yn ynysydd naturiol i’ch cadw’n gynnes yn y gaeaf ac mae’n anadlu’n naturiol i’ch cadw’n ddigon oer yn yr haf. Mae gwlân yn naturiol yn wrthfacterol oherwydd lanolin – olew melyn golau a geir mewn gwlân defaid. Hefyd, mae lanolin yn rhoi priodweddau gwrthsefyll dŵr i wlân. Mae gorchuddion gwlân yn dod ar 2 ffurf: un ar siâp gorchudd confensiynol gyda phopwyr neu ffasnin Felcro a’r llall yn wlân wedi’i wau i siâp siorts neu drowsus. Gwell defnyddio gwlân yn ystod y nos gan y gall sugno cywasgedd ddigwydd pan fydd y babi ar ddihun (sef, lleithder sy’n cael ei wthio trwy’r gwlân pan fydd y babi ar ei eistedd am ychydig o amser). Nid yw gorchuddion gwlân yn cael eu golchi bob tro ar ôl cael eu defnyddio ond maen nhw’n cael eu hongian i sychu ac unwaith maen nhw’n sych, maen nhw’n barod i gael eu defnyddio eto. Mae angen eu golchi â llaw mewn sebon olewydden a’i ail-lanolineiddio bob 3-4 golch.
Ffeithiau am wlân:
- Bydd gwlân yn amsugno hyd at 30% o’i bwysau mewn lleithder heb deimlo’n llaith.
- Adnodd adnewyddadwy yw gwlân y mae modd ei gneifio o ddefaid bob blwyddyn. Mae’n fioddiraddadwy ac yn well i’r amgylchedd na synthetigion sail olew.
Mae gwlân bron yn hollol analergenol er bod gan rai pobl alergedd naturiol i Lanolin.
PUL
Mae PUL yn sefyll am laminiad polywrethan ac mae’n cael ei ddefnyddio i wneud gorchuddion a chewynnau un-darn a phoced. Mae’r araen yma yn gwrthsefyll dŵr ond mae’n medru anadlu. Gall y ffabrig y mae’n cael ei roi wrtho fod yn gotwm neu â lefelau gwahanol o bolyester ynddo.
Mae’n para ac mae modd ei olchi a’i sychu sawl gwaith heb iddo golli ei allu gwrth-ddŵr. Mae modd ei olchi ar dymheredd i fyny at 60°c ond bydd yn para’n fwy os yw’n cael ei olchi â llaw neu’n cael ei olchi ar 30 neu 40°c gyda gweddill golch eich teulu.
Ffeithiau am PUL:
- Yn gyffredinol, mae PUL lliw solet yn cael ei wneud o ffabrig polyester a PUL printiedig fel arfer yn cael ei wneud gyda chotwm.
- Cafodd ei greu’n wreiddiol i’w ddefnyddio mewn ysbytai a lleoliadau meddygol eraill.
Gallwch sychu cewynnau a gorchuddion PUL yn y peiriant sychu dillad ond fe all hyn olygu nad fyddant yn para cyhyd – mae’n well eu sychu ar y lein. Rhaid peidio â socian PUL mewn unrhyw hydoddiant cemegol fel Napisan neu gynhyrchion ocsi-gannydd gan fod hyn yn gallu dinistrio ei briodweddau gwrth-ddŵr.


