Cewsitynau Cyffredin
Beth yw'r manteision o ddefnyddio Cewynnau Go Iawn?
a) Cost
- Ar gyfartaledd bydd baban yn defnyddio tua 5,000 o gewynnau (wedi’i seilio ar gyfartaledd o 50 cewyn yr wythnos am faban newydd ei eni a 35 yr wythnos i faban hyn - cyfnod o ddwy flynedd a hanner)
- Am gyfnod o ddwy flynedd a hanner gall gewynnau tafladwy gostio tua £800*
* Prisiau wedi’i seilio ar ‘Mothercare offers 2007 Spring Catalogue’ p 268-269
b) Amgylcheddol
Bydd effaith amgylcheddol yn deillio o ddefnyddio unrhyw fath o gewyn. Fodd bynnag mae cewynnau tafladwy yn cyfrannu tuag at lenwi ein safleoedd tirlenwi prin, gan gymryd tua 300 mlynedd i bydru, gan ryddhau'r nwy tŷ gwydr niweidiol methan, sy’n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Os dymunwch ddefnyddio cewynnau go iawn a lleihau effaith amgylcheddol, beth am:
- ddewis deunyddiau mwy amgylcheddol gyfeillgar, fel cotwm organig, hemp neu fambŵ.
- ddefnyddio offer trydanol gradd ‘A’
- olchi ar 40, neu 60c. Peidiwch â’u berwi.
- beidio â defnyddio cyflyrydd ffabrig - mae’n ddiangen ac yn lleihau amsugnedd
- ddefnyddio powdr golchi amgylcheddol gyfeillgar
- leihau / osgoi’r defnydd o beiriannau sychu - defnyddiwch hors ddillad neu lein
- beidio smwddio’r cewynnau
- annog hyfforddiant toiled yn gynt - 18 mis.
c) Iechyd
Mae cewynnau go ianw yn cadw cluniau babanod ar yr ongl gywir, nid yw’n cynnwys cemegolion ac yn aml mae cewynnau modern wedi’i gwneud o ddeunyddiau naturiol, sy’n annog hyfforddiant toiled yn gynt.
2. Faint o gewynnau sydd ei angen?
Os ddefnyddir cewynnau go iawn yn unig awgrymir i gael 18-24 cewyn a 4-6 gorchudd gwrth-ddŵr. Byd dyn yn sicrhau bydd gennych ddigon ar gyfer gulch llawn tua 2-3 gwaith yr wythnos..
3. Ble alla i brynu cewynnau go iawn?
Mae nifer o stocwyr annibynnol asiant a siopau stryd fawr sy’n gwerthu cewynnau go iawn, am fwy o wybodaeth ewch i Eich Ardal, Dolenni neu cysylltwch.
4. Beth arall sydd angen?
Unwaith fo’r baban wedi’i ddyfnu, awgrymir i ddefnyddio leinin golchadwy neu rai gallwch roi lawr y toiled. Os bydd unrhyw gysondeb i symudiad bowel eich baban bydd gellir defnyddio leinin ar gyfer y cewyn yma yn unig. Yn aml bydd baban newydd ei eni ddim angen leinin gan na fydd unrhyw fudiant wedi’u ffurfio, caiff y cewyn ei wlychu trwyddo.
Wrth ddefnyddio leinin cewch osgoi socian y cewynnau, caiff unrhyw wastraff ei yrru lawr y toiled yn syth.
Ar gyfer baban newydd efallai bydd ychydig o socian ei angen i osgoi unrhyw staenio. Wrth socian, gellir defnyddio un o’r cymysgedd isod (am 5 litr o ddŵr), nodwch wrth ddefnyddio borax domestig neu bowdr saniteiddio efallai bydd dim ond angen rinsio’n drwyadl yn hytrach na golchi:
- Finag gwyn wedi’i ddistyllio(2-3 tbs)
- Sodium Bicarbonate (1 tbs)*
- Borax domestig ( 1 tbs)*
- Olew Tea Tree (5 drops)
- Powdr sanitieddio (1 tbs)
*dim yw defnyddio ar gewynnau / gorchuddion sydd gyda felcro.
(ffynhonell:WEN)
Gellir golchi cewynnau gyda dillad arferol y baban, fodd bynnag os fo’r cewynnau wedi’i socian gall bwced storio fod o ddefnydd a net er mwyn symud y cewynnau o’r bwced i’r peiriant golchi.


