Yr Amgylchedd
Pa bynnag fath o gewyn y dewiswch, mae'n siŵr o gael effaith ar yr amgylchedd. Fodd bynnag mae cewynnau tafladwy yn llenwi ei'n safleoedd tirlenwi yn gyflym, ble gallent gymryd cymaint â 300 o flynyddoedd i bydru, gan gyfrannu at gynhesu byd eang drwy greu methan - nwy tŷ gwydr niweidiol iawn. Os am ddefnyddio cewynnau go iawn a lleihau effaith amgylcheddol dyma rai syniadau:
- Dewiswch ddeunyddiau sy'n fwy amgylcheddol gyfeillgar, fel cotwm organig, hemp, neu fambŵ.
- Defnyddiwch offer golchi a sychu o gyfradd 'A'
- Golchwch y cewynnau ar 60 a gorchuddion ar 40 0c. Peidiwch ai berwi.
- Peidiwch â defnyddio cyflyrydd deunyddiau - mae'n ddiangen ac yn lleihau amsugnedd
- Pam ddim defnyddio powdr/hylif golchi ecogyfeillgar
- Osgowch sychu mewn peiriant - sychwch ar linell, neu ar hors ddillad
- Peidiwch â smwddio'r cewynnau
- Ceisiwch annog eich plentyn i ddefnyddio'r toiled o 18 mis oed


