Sir Benfro

Safle We

www.daisiesonline.co.uk

Asiant Lleol

Caroline Berry - 01239 810232 neu e bost caroline@dasiesonline.co.uk

Rhian Green (Gogledd) www.mamigreen.co.uk - (029) 20 842038 / (07855) 359130 post@mamigreen.co.uk

Stocwyr Annibynnol

Friday's Child

2 Market Square

Narberth

Sir Benfro

SA67 7AU

(01834) 869944

Toffee Apple Children's World

62-70 Dew Street

Haverford West

SA61 1NR

(01437) 767222

www.toffeeappleworld.co.uk

Stocwyr Cewynnau Bambino Mio ac One Life, Moltex Oko Disposables, Sychwyr Llysieuol, Bagiau Cewynnau Bioddiraddadwy a 3 Bees Botty Balm a Barrier.

Cynllun Cymhelliol

Mae Cyngor Sir Benfro yn cynnig hyd at £60 o arian yn ôl i rieni sy’n prynu cewynnau go iawn. Gall rhieni hawlio £30 o’u harian yn ôl os byddan nhw’n gwario £50, neu £60 os byddan nhw’n gwario £150 neu fwy ar gewynnau go iawn. Ewch i www.pembrokeshire.gov.uk/realnappies a llenwi’r ffurflen ar-lein a’i dychwelyd (gan amgáu’r dderbynneb wreiddiol) neu ffoniwch Victoria White, Cydgysylltydd Cewynnau Go Iawn ar 01437 775408 am fwy o fanylion.

Profwch y cewynnau cyn eu prynu gyda phecynnau prawf gan Gewynnau Go Iawn Sir Benfro. Fe gewch chi set o gewynnau y gallwch eu defnyddio gartref i roi syniad i chi o ba fath o gewyn sy’n eich gweddu chi a’ch babi orau. Am fwy o fanylion, ewch i http://www.pembsrealnappies.org.uk/nappies/getting%20started.

Ysbytai Cyfeillgar i Gewynnau Go Iawn

Mae ysbyty Withybush wedi’u cymeradwyo fel 'Ysbyty Cyfeillgar i Gewynnau Go Iawn' - byddwch yn gallu dod â’ch cewynnau go iawn eich hunan pan fyddwch chi yno os ydych chi wedi prynu eich cewynnau’n barod. Fel arall, gallwch weld pecyn arddangos o gewynnau sy’n cael ei gadw ar y wardiau i rieni ei weld. Mae’r pecyn yn cynnwys 1 cewyn plyg-parod Swaddlebees, 1 cewyn bambŵ Little Lamb, 1 cewyn Real Easy, 1 cewyn poced Minky, 1 gorchudd gwrth-ddŵr Nature Babies, 1 sychydd golchadwy a chanllawiau i gewynnau a ffabrig printiedig a manylion cyswllt cyflenwr cewynnau go iawn lleol.

Cynlluniau Undeb Credyd

Bydd cewynnau go iawn yn arbed arian i chi dros gyfnod ond mae angen arian i gychwyn; ffordd dda o osgoi'r gost gychwynnol hon yw benthyca gan eich undeb credyd lleol. Maen nhw'n rhoi benthyciadau cost isel at unrhyw bwrpas ac mae'n ffordd wych o brynu'r holl gewynnau go iawn sydd eu hangen arnoch heb dorri'r banc. Caiff benthyciadau eu had-dalu'n wythnosol neu'n fisol yn ôl eich dewis.

Undeb Cerdyd Haven Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Bwrdeistref Sirol Sir Benfro. Mae'n rhaid i chi gynilo am leiafswm o 12 wythnos; byddwch wedyn yn gymwys i fenthyca dwywaith y swm rydych chi wedi'i gynilo h.y. os byddwch wedi cynilo £100 gallech chi fenthyca hyd at £200. Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 heb ei warantu a gaiff ei ad-dalu dros 12 mis yn costio o gwmpas £4.10 yr wythnos.

Mae yswiriant bywyd ar gael ar gynilion a benthyciadau undeb credyd heb gost ychwanegol.

Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch hefyd dalu trwy archeb sefydlog.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Cerdyd Haven Cyf, 44 Stryd Siarl, Aberdaugleddyf, Sir Benfro, SA73 3AE. 0164 6694080

Undeb Cerdyd Landsker

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Sir Gaerffyrddin neu Sir Benfro. Ar ôl i chi wneud eich cais bydd yn mynd i banel a byddan nhw'n penderfynu a gaiff y benthyciad ei gymeradwyo ai peidio.

Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 12 mis yn costio £4.50 yr wythnos.

Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda phob benthyciad.

Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch hefyd dalu trwy archeb sefydlog neu PayPoint.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Cerdyd Landsker, Picton Tce, Spring Gardens, Narberth. SA67 7BN. 01834 861382. Landskercreditunion@btconnect.com www.landskercreditunion.co.uk