Meithrinfa

Byddai annog defnyddio Cewynnau Go Iawn mewn meithrinfa'n:

· Lleihau Gwastraff - mae meithrinfa â 30 o fabanod mewn cewynnau, yn cael eu newid 4 gwaith y dydd ar gyfartaledd yn cyfateb i fwy na 31,000 o gewynnau'r flwyddyn! Mae hyn yn llenwi 780 o fagiau du sy'n cyrraedd safleoedd llenwi tir, lle mae'r cewynnau'n cymryd rhai cannoedd o flynyddoedd i ddadelfennu.

· Arbed Arian - Trwy ailgylchu ac annog rhieni i newid i Gewynnau Go Iawn caiff swm y gwastraff ei leihau'n sylweddol gan leihau eich biliau gwastraff. Os ydych yn awgrymu bod rhieni'n darparu'r cewynnau, leineri a bag diddos (i ddychwelyd y cewynnau) nid yw Cewynnau Go Iawn yn costio dim i'r feithrinfa.

· Hyfforddiant Toiled - Gyda Chewynnau Go Iawn mae'r cysylltiad yno lawer yn gynt rhwng gwacáu’r bledren a theimlo'n wlyb, felly'n cyflymu'r broses o hyfforddiant toiled.

· Iechyd - Heb geliau cemegol na phwlp papur mae Cewynnau Go Iawn yn ddewis mwy naturiol. Mae hefyd fwy o frech cewynnau'n digwydd gyda chewynnau tafladwy.

· Hylendid - Mae defnyddio leineri bioddiraddadwy i'w fflysio yn golygu bod gwastraff solet yn cael ei fflysio i lawr y toiled. Gall cewynnau go iawn gael eu cadw wedyn mewn bag diddos a'i ddychwelyd i'r rhieni.

Os ydych yn awyddus i ddefnyddio Cewynnau Go Iawn yn eich meithrinfa mae Adnoddau ar gael i'ch helpu chi. Os ydych am ddefnyddio Cewynnau Go Iawn yn unig yn y feithrinfa fe'i cewch hi'n werthfawr lawrlwytho'r isod:

http://www.wrap.org.uk/downloads/D10698_Nursery_Guide_Web_1.4030278c.3471.pdf

Mae sawl ffordd o hyrwyddo'r ffaith eich bod yn annog Cewynnau Go Iawn:

· Pecyn Gwybodaeth i Rieni - Dywedwch eich bod yn annog y defnydd o Gewynnau Go Iawn. Os oes angen nodwch pa fathau a beth y mae angen i rieni ei gyflenwi. Gallwch hefyd roi taflenni i chi os oes angen.

· Taclau Cewynnau Go Iawn - Gallwch fenthyca hwn am ddim gan eich Awdurdod Lleol a gellir ei ddefnyddio mewn dyddiau gwybodaeth a digwyddiadau, neu ei ddefnyddio fel arddangosiad.

· Gwahoddwch un o wirfoddolwyr Cewynnau Go Iawn i roi sgwrs i staff a/neu rieni.

· Gwerthwch Gewynnau Go Iawn ac atodion (fel leineri, dillad nofio i'w hailddefnyddio) ac ennill incwm ychwanegol i'r Feithrinfa.

Os ydych chi am gael unrhyw wybodaeth bellach Cysylltwch â ni