Citiau Prawf a Gwasanaethau Golchi

Citiau prawf cewynnau go iawn

Bydd cewynnau go iawn yn arbed arian i chi yn y tymor hir ond mae angen gwario’r arian ar y dechrau a sut ydych chi’n gwybod eich bod yn dewis y cewyn iawn o’r amrywiaeth enfawr sydd ar gael erbyn hyn? Y ffordd orau o sicrhau eich bod yn gwneud y dewis iawn yw defnyddio pecyn prawf. Detholiad o gewynnau a gorchuddion yw’r pecynnau prawf sy’n cael eu hanfon atoch chi er mwyn i chi arbrofi gydag ychydig o fathau a brandiau o gewynnau. Mae’r pecynnau hyn yn rhoi profiad uniongyrchol i chi o ddefnyddio, golchi a sychu gwahanol fathau o gewynnau go iawn.

Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau yn gadael i chi ddewis amrywiaeth o gewynnau go iawn a gorchuddion i’w benthyca – mae cit prawf penodol gan eraill. Mae pob cwmni yn codi blaendal ad-daladwy i gyfro unrhyw golledion neu niwed i’r cewynnau. Ar ben hynny, codir am logi’r cewynnau a gall hyn amrywio ond mae prisiau yn dechrau o £25 am brawf pythefnos.

Bydd y rhan fwyaf o gwmnïau yn cynnig gostyngiad i chi os ydych yn prynu cewynnau ganddyn nhw unwaith mae’r prawf wedi dod i ben. Cofiwch nad oes rhaid i chi brynu’r un math o gewyn i gyd – mae llawer o rieni yn hoffi cymysgu eu cewynnau go iawn gan fod rhai’n fwy addas yn ystod y nos neu pan fydd babanod mewn meithrinfa neu er mwyn cael tipyn o sbri!

Dydy’r cewynnau yn y pecynnau yma ddim yn newydd fel arfer, maen nhw wedi cael eu defnyddio ond maen nhw mewn cyflwr da ac yn cael eu golchi’n drylwyr rhwng cwsmeriaid.

Os nad ydych chi eisiau llogi cewynnau sydd wedi cael eu defnyddio, mae rhai cwmnïau yn gwerthu citiau newydd felly gallwch arbrofi gyda mathau gwahanol o gewynnau cyn prynu set gyfan.

Dyma rai o’r cwmnïau sy’n cyflenwi pecynnau prawf:

Mami Green - Caerdydd

www.mamigreen.co.uk

Pembs Real Nappies - Sir Benfro

www.pembsrealnappies.org.uk

BabyKind - Cymru

www.babykind.co.uk

Cotton Tails - Cymru gogledd ddwyrain

www.cottontails.co.uk

Plush Pants - Cymru

www.plushpants.co.uk

Little Pants - Cymru

www.littlepants.co.uk

Simply Nappies - Shrewsbury a Powys Gogledd

www.simplynappies.co.uk

Dyma rai cwmnïau sy’n gwerthu citiau prawf newydd:

BabyKind

www.babykind.co.uk

Bebeco

www.bebeco.co.uk

Twinkle on the Web

www.twinkleontheweb.co.uk

Lizzies Real Nappies

www.lizziesrealnappies.co.uk

Little Lambs

www.littlelamb.co.uk

Babame

www.babame.com

Llogi Cewynnau Go Iawn

Opsiwn arall yw llogi eich cewynnau go iawn yn wythnosol yn hytrach na thalu am set gyfan. Fel arfer, byddwch yn llogi mwy nag un math o gewyn go iawn fydd yn rhoi cyfle i chi roi cynnig ar ambell steil gwahanol. Ar y dechrau, bydd eich pecyn llogi yn cynnwys detholiad o wahanol fathau o gewynnau gan gynnwys rhai plyg-parod, wedi’u siapio ac un-darn. Ar ben hynny, bydd yn cynnwys detholiad o orchuddion a phadiau atgyfnerthu. Wrth i chi fynd ymlaen, gallwch newid y detholiad o gewynnau i fodloni eich anghenion eich hunan. Mae’r un system yn gymwys o ran gorchuddion – os yw’n well gennych rai pinc yn lle rhai gwyn, yna cyfnewidiwch nhw! Mae hyn i gyd wedi’i gynnwys yn y cost wythnosol felly does dim taliadau ychwanegol.

Mae costau yn amrywio gan ddibynnu ar ba fath o gewyn rydych chi’n penderfynu ei ddefnyddio ond gallan nhw ddechrau o tua £4.50 yr wythnos. Bydd y cwmni llogi yn gofyn am flaendal ad-daladwy – bydd hyn yn dibynnu ar ba fath o gewyn rydych chi’n ei ddewis hefyd.

South Wales Nappies sy’n cynnwys: Sir Fynwy, Caerdydd, Bro Caerdydd, Torfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd, Bro Morgannwg, Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Brycheiniog ac Abertawe.

Ewch i www.southwalesnappies.co.uk neu e bost hire@southwalesnappies.co.uk am fwy o fanylion.

Gwasanaethau Golchi

Mae gwasanaethau golchi cewynnau go iawn yn dod â chewynnau glân yn syth i stepen eich drws unwaith yr wythnos. Os ydych yn awyddus i ddefnyddio cewynnau go iawn ond ddim mor awyddus i’w golchi yna gallai defnyddio gwasanaeth golchi cewynnau fod o fudd i chi.

Mae golchdai cewynnau go iawn yn darparu tua 50 – 70 cewyn i chi ynghyd â leiners bioddiraddadwy a bin cewynnau. Pan fyddwch yn newid eich babi, yna y cyfan sydd angen ei wneud yw fflysio’r leiner bioddiraddadwy i lawr y toiled a rhoi’r cewyn wedi’i faeddu yn y bin cewynnau. Ar y diwrnod casglu, bydd y gwasanaeth golchi yn casglu’r cewynnau wedi’u baeddu a gadael cyflenwad glân o gewynnau i chi am yr wythnos nesaf.

Mae golchdai cewynnau go iawn yn golchi eu cewynnau ar 95ºC fel eu bod wedi’u llwyr ddiheintio yn thermol ac yn cael eu rinsio’n drylwyr dair gwaith er mwyn dileu unrhyw olion o lanedydd sydd ar ôl.

Gall gwasanaethau golchi ddarparu’r gorchuddion gwrth-ddŵr fydd eu hangen arnoch chi a gallwch naill ai brynu neu rentu’r maint cywir i’ch babi. Cyfrifoldeb y cwsmer yw golchi’r gorchuddion hyn a gellir rhoi’r rhain gyda’ch golch arferol neu eu golchi â llaw.

Bydd y rhan fwyaf o’r gwasanaethau golchi’n cynnig ymweld â chi gartref i esbonio sut mae eu gwasanaeth yn gweithio ac yn rhoi cychwyn arno.

Mae gwasanaethau golchi cewynnau go iawn yn amrywio o ran cost ac fe all ddibynnu ar faint o gewynnau a gorchuddion sy’n cael eu darparu i chi. Gall prisiau ddechrau o tua £8.50 a mynd i fyny i £12 yr wythnos. Hefyd, mae rhai cwmnïau yn codi ffi gychwynnol i gyfro cost gweinyddu a’ch bin golchi. Mae pob cwmni yn rhoi gostyngiad os oes gennych fwy nag un plentyn yn defnyddio’r gwasanaeth.

Yng Nghymru, mae 2 gwmni golchi cewynnau go iawn:

South Wales Nappies sy’n cynnwys: Sir Fynwy, Caerdydd, Bro Caerdydd, Torfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd, Bro Morgannwg, Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Brycheiniog ac Abertawe.

Ewch i www.southwalesnappies.co.uk am fwy o fanylion.

Cotton Tails sy’n cynnwys: Wrecsam, Sir y Fflint a rhannau o Ddwyrain Sir Ddinbych.

Ewch i www.cottontails.co.uk am fwy o fanylion.