Wythnos Cewynnau Go Iawn 2010

10 Chwef 2010

Nappy Go Lucky – Cwmni lleol sy’n gwerthu amrywiaeth eang iawn o gewynnau ac yn cynnig gwasanaeth cynghori am ddim yng Nghaerfyrddin. Hefyd, maen nhw ar gael i roi sgyrsiau i grwpiau lleol. Galwch Christie ar 07826788893 neu e-bostio christine@nappygolucky.co.uk am fwy o fanylion neu ewch i www.nappygolucky.co.uk am werthiannau ar-lein.

Bydd Wythnos Cewynnau Go Iawn eleni yn dechrau ar 26 Ebrill ac mae’n cael ei dathlu ledled y DU gyda llawer o weithgareddau a digwyddiadau llawn hwyl yn cael eu trefnu dros Gymru gyfan. Yn y gorffennol cafwyd sioeau ffasiwn, cystadleuaeth calendr, Nappuccinos a llawer o ddigwyddiadau eraill sy’n llawn hwyl a gwybodaeth i helpu codi proffil cewynnau golchadwy a throsglwyddo’r neges i rieni Cymru y gallan nhw arbed arian a lleihau eu gwastraff trwy ddefnyddio cewynnau golchadwy ar eu plant.

General015Llinos020Talitha006

Sioe ffasiwn cewynnau go iawn yn Wythnos Cewynnau Go Iawn Abertawe 2006.

Lucy Owen

Lucy Owen yn lansio Wythnos Cewynnau Go Iawn 2008.

MH Alexa Scarpato 12

Enillwyr cystadleuaeth calendr cewynnau go iawn yn ymddangos yn y calendr ar gyfer 2009.

Mynnwch fwrw golwg ar ein tudalen digwyddiadau i weld a oes unrhyw ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn agos i chi neu os ydych chi’n ystyried trefnu digwyddiadau eich hunan, yna cysylltwch â ni. Gallwn ychwanegu eich digwyddiad i’n hadran digwyddiadau a chynnig cyngor ac adnoddau i helpu i’ch digwyddiad chi lwyddo.

Mae’r Ymgyrch Go Real yn trefnu ychydig o ddigwyddiadau dros yr wythnos gan gynnwys:

Teledu Go Real

Cynhelir digwyddiadau Cewynnau Go Iawn ar draws y DU a’r byd; a byddwch yn gallu cymryd rhan ynddynt yn gyfforddus o’ch cartref eich hun trwy diwnio i mewn i Deledu Go Real. Bydd y digwyddiadau rhyngweithiol hyn ar gael trwy eich hoff safle cyfryngau cymdeithasol gan ganiatáu i chi ofyn cwestiynau, gwneud sylwadau ar yr hyn sy’n digwydd a rhannu’r profiad gyda ffrindiau.

Bydd eitemau a recordiwyd ymlaen llaw ar gael hefyd i adael i chi edrych ar yr hyn sy’n digwydd ar amser sy’n gyfleus i chi. Hefyd bydd aelodau Go Real yn cyflwyno fideos fel eich bod yn gallu cwrdd â rhai o’r bobl y tu ôl i Gewynnau Go Iawn a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynhyrchion. Os oes cwmni yr hoffech chi glywed oddi wrtho neu bwnc yr hoffech chi i ni roi sylw iddo, rhowch wybod iddyn nhw.

Beth am gyflwyno rhywbeth eich hunan? Anfonwch fideo neu glip clywedol aton ni yn dweud wrthon ni pam dewisoch chi ddefnyddio Cewynnau Go Iawn, anfonwch foment Cewynnau Go Iawn fwyaf doniol eich babi aton ni neu rhowch gynnig ar wneud hysbyseb, cân neu gartŵn Cewynnau Go Iawn. Byddwn yn arddangos cymaint o’ch fideos neu bodlediadau ag y gallwn ynghyd â dyfarnu ambell wobr wych am y rhai gorau byddwn ni’n eu derbyn. Anfonwch eich fideos neu’ch recordiadau at rebecca@goreal.org.uk

Nappuccino Mwyaf y Byd

Bydd Go Real yn dechrau’r wythnos o ddigwyddiadau gyda Nappuccino arbennig. Y digwyddiad mwyaf o’i fath i’w gynnal erioed a dyma fydd y digwyddiad cyntaf i’w lifo’n fyw ar Deledu Go Real a bydd yn cynnwys arddangosiadau, cyfweliadau a thrafodaeth yn ogystal â llawer o fabanod mewn cewynnau go iawn llachar a lliwgar.

Am fwy o fanylion am yr Ymgyrch Cewynnau ‘Go Real’ ewch i www.goreal.org.uk

logo go real