Castell Nedd Port Talbot

Asiant Lleol

Melanie Johnson – Asiant cewynnau Lollipop wedi’i lleoli ym Mhen-y-bont sy’n cynnig arddangosiadau cartre am ddim ym Mhen-y-bont a’r cylch ynghyd â chyngor dros y ffôn neu drwy e-bost. Galwch 01656 749690/07739370470 e-bostiwch: demo@little-lion.co.uk am arddangosiad neu wybodaeth neu sales@little-lion.co.uk
I archebu ar-lein, ewch i www.little-lion.co.uk

Rhian Green www.mamigreen.co.uk - (029) 20842038 / (07855) 359130 neu e bost post@mamigreen.co.uk

Catherine Lewis - www.onlyoneworld.co.uk / www.etmoi.co.uk 01291 427262 / 01291 689333 neu e bost sales@southwalesnappies.co.uk

Stocwyr Annibynnol

Sarah Jane Plant - Daizy Babies Limited ewch i www.daizybabies.com, ffoniwch 01773 318 068 neu e bost info@daizybabies.com

Gwasanaeth Golchi

South Wales Nappies

48 Lapwing Avenue

Caldicot

NP26 5RN

(01291) 430227 / 01291 689333

Am fwy o wybodaeth ewch i www.southwalesnappies.org.uk / www.etmoi.co.uk

Cynllun Cymhelliol

Yn anffodus, does dim cynllun cymhellol yu yr ardal yma ar hyn o bryd.

Cynlluniau Undeb Credyd

Bydd cewynnau go iawn yn arbed arian i chi dros gyfnod ond mae angen arian i gychwyn; ffordd dda o osgoi'r gost gychwynnol hon yw benthyca gan eich undeb credyd lleol. Maen nhw'n rhoi benthyciadau cost isel at unrhyw bwrpas ac mae'n ffordd wych o brynu'r holl gewynnau go iawn sydd eu hangen arnoch heb dorri'r banc. Caiff benthyciadau eu had-dalu'n wythnosol neu'n fisol yn ôl eich dewis.

Undeb Credyd Castell-nedd Port Talbot Cyf

Mae'r Undeb Credyd yn ymrwymedig i helpu pobl i ddechrau cynilo. Mae gennym yn awr lawer o aelodau sydd am y tro cyntaf yn eu bywyd yn gallu talu am briodas, gwyliau neu gelfi newydd o'u cynilion eu hunain. Gall aelodau gynilo cyn lleied â dwy bunt yr wythnos a phlant un bunt. Rydym hefyd yn benthyca i'n haelodau. Rydym yn pwysleisio benthyca i'n haelodau am mae arian y mae ein haelodau wedi ei gronni yw'r arian a gaiff ei fenthyca.

Mae eich arian mor ddiogel mewn undeb credyd â chydag unrhyw fanc neu gymdeithas adeiladu.

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae'n rhaid i chi gynilo am leiafswm o 6 wythnos. Gallwch wedyn fenthyca hyd at 3 gwaith y swm rydych chi wedi'i gynilo.

Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 12 mis yn costio £4.10 yr wythnos.

Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda phob benthyciad.

Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch hefyd dalu trwy archeb sefydlog.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Castell-nedd Port Talbot Cyf, 41-43 Heol Windsor, Castell Nedd, SA11 1NH. 01639 632 100.

Undeb Cerdyd Cymdeithas Afan

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae'n rhaid i chi gynilo am leiafswm o 13 wythnos; byddwch wedyn yn gymwys i fenthyca dwywaith y swm rydych chi wedi'i gynilo h.y. os byddwch wedi cynilo £100 gallech chi fenthyca hyd at £200.

Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 heb ei warantu a gaiff ei ad-dalu dros 12 mis yn costio o gwmpas £4.10 yr wythnos.

Mae yswiriant bywyd ar gael ar gynilion a benthyciadau undeb credyd heb gost ychwanegol.

Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch hefyd dalu trwy archeb sefydlog.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Cerdyd Cymdeithas Afan, 33 Heol Commercial, Tailbach, Castell-nedd, SA13 1LN. 01639 888282