Iechyd
Mae'r Ymgyrch Cewynnau Go Iawn a Chraff am Wastraff Cymru'n gweithio ynghyd i gyflwyno cynllun Cynulliad Cymru i hyrwyddo Cewynnau Go Iawn yng Nghymru. Mae'r Sector Iechyd yn allweddol wrth gyflwyno negeseuon yr ymgyrch gan fod ganddyn nhw gyswllt cyson â rhieni a darpar rieni, a nhw yn aml yw'r man galw cyntaf i rieni sydd am gael gwybodaeth am y mathau o gewynnau sydd ar gael a'u manteision.
I helpu Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd i allu rhoi gwybodaeth gyfoes a chywir i rieni, rydyn ni wedi datblygu nifer o adnoddau. Mae'r rhain yn cynnwys posteri, taflenni, DVD, sampl o gewyn, canllaw cewynnau a chardiau gwybodaeth. Rydym hefyd yn gallu helpu gyda dosbarthiadau crefft rhieni, arddangosfeydd a digwyddiadau sector iechyd.
I fydwragedd ac ymwelwyr iechyd mewn hyfforddiant rydym hefyd wedi creu cyflwyniad dosbarth rhyngweithiol.
Os ydych am gyflwyno cewynnau i Ward Mamolaeth, mae llyfryn wedi'i gynhyrchu gan WRAP sydd ar gael i'w lawrlwytho www.wrap.org.uk/downloads/D10698_Hospital_Guide_Web_1.804f4a73.pdf
Cewyn Storc - y cewyn arobryn a ddyluniwyd gan Ymgyrch Cewynnau Go Iawn Ynys Manaw
Cafodd y Cewyn eco-Storc ei ddylunio gan fydwraig, wedi ei greu ar gyfer y GIG gan y GIG fel rhan o gynllun datblygiad cynaliadwy gofal iechyd BSI ISO 1400I, ISO 900I, Buddsoddwyr mewn Pobl, i ddod OHSAS 1800I
Ar ddydd Mercher 16 Gorffennaf 2008 cydnabu corff caffael y GIG Cadwyn Gyflenwi'r GIG mewn cydweithrediad â Cooneen (Gwneuthurwr) y cewyn eco Storc i'w brynu
Cafodd ei wneud gan (BRIF) Wneuthurwyr Tecstilau Sector Cyhoeddus Prydeinig gan gynnal a chreu gwaith yn y DU – gan ddefnyddio deunyddiau yn deillio o'r DU ac Ewrop.
Cymerwyd dwy flynedd i ddatblygu'r cewyn - gweler strategaeth datblygu cynnyrch yn nogfen y GIG, wedi'u dilyn gan bedair blynedd o dreialon mewn safleoedd peilot y GIG. Y mae'n awr yn barod i'w weithredu ledled y GIG.
Os ydych am siarad â rhywun am ddefnyddio'r cewyn storc ar eich ward famolaeth neu os ydych am gael mwy o wybodaeth am y cewyn ac am ymgyrch Cewynnau Go Iawn Ynys Manaw defnyddiwch y cyswllt 'Cysylltwch â ni' isod.
Am ragor o wybodaeth, neu i archebu adnoddau Cysylltwch â ni


