Sir Ddinbych
Asiant Lleol
Sam Deacon – Asiant Lollipop Nappy yn gwasanaethu Gogledd Cymru www.teamlollipop.co.uk ffoniwch Sam am arddangosiadau yn y tŷ a manylion am Nappuccinos ar 01492 642275 neu e-bostiwch samjdeacon@hotmail.com
Tudalen Facebook www.facebook.com/pages/Lollipop-Nappies/394641446150
Mae 'Lizzies Real Nappies' wedi'i lleoli yn Nghaer, Cynnigir cymorth a chyngor am ddim i bobl Sir Ddinbych. www.lizziesrealnappies.co.uk info@lizziesrealnappies.co.uk (01244) 346797.
Stocwyr Annibynnol
The Nursery Window
80-82 Wellington Road
Rhyl
LL18 1LA
01745 330115Stocwyr cewynnau ac ategolion Bambino Mio ac maen nhw’n derbyn Taleb Cyngor Sir Ddinbych.
Sarah Jane Plant - Daizy Babies Limited ewch i www.daizybabies.com, ffoniwch 01773 318 068 neu e bost info@daizybabies.com
Gwasanaethau Golchi
Mae Cotton Tails yn darparu gwasanaeth golchi cewynnau sy’n cynnwys Wrecsam. Byddan nhw’n dod â chyflenwad wythnosol o gewynnau i chi ac unwaith yr wythnos, byddan nhw’n dod â chewynnau glân i chi ac yn mynd â’ch cewynnau brwnt. Mae’r cewynnau sy’n cael eu darparu’n gewynnau plyg-parod ac wedi eu cynllunio i ffitio’n glyd y tu mewn i orchudd allanol gwrth-ddŵr. Hefyd, maen nhw’n darparu brandiau gwahanol o orchuddion cewyn, wedi eu dethol i roi’r ansawdd, gwydnwch a gwerth gorau. Mae gan bob gorchudd ffasninau Felcro neu bopwyr.
Mae cewynnau Cotton Tails yn cael eu golchi ar 95°C fel eu bod yn cael eu diheintio’n thermol yn llwyr. Mae’r broses gyfan gan gynnwys 3 rins terfynol yn sicrhau na fydd unrhyw gemegau garw yn cyffwrdd â chroen eich babi. Mae’r gost yn dechrau o tua £9.25 yr wythnos.
Hefyd, mae Cotton Tails yn cynnig Cit Prawf Golchi Gartre, am un taliad o £25 (£30 blaendal ad-daladwy). Gallwch ddewis hyd at 21 o gewynnau a 7 gorchudd allanol i’w defnyddio a’u golchi eich hunan yn eich cartref eich hun am bythefnos. Does dim rhwymedigaeth i brynu cewynnau ar ôl y prawf ond, gyda phob archeb, maen nhw’n cynnig eu dosbarthu am ddim o fewn eu hardal olchi.
Am fwy o fanylion am y gwasanaeth golchi neu’r citiau prawf, ffoniwch 0151 355 9914 neu ewch i www.cottontails.co.uk.
Cynllun Cymhelliol
Cynnigir Gyngor Sir Dinbych £75 arian yn ol ar gael mewn tria rhan o £25. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01824 712108.
Ysbytai Cyfeillgar i Gewynnau Go Iawn
Mae ysbyty Glan Clwyd wedi’u cymeradwyo fel 'Ysbyty Cyfeillgar i Gewynnau Go Iawn' - byddwch yn gallu dod â’ch cewynnau go iawn eich hunan pan fyddwch chi yno os ydych chi wedi prynu eich cewynnau’n barod. Fel arall, gallwch weld pecyn arddangos o gewynnau sy’n cael ei gadw ar y wardiau i rieni ei weld. Mae’r pecyn yn cynnwys 1 cewyn plyg-parod Swaddlebees, 1 cewyn bambŵ Little Lamb, 1 cewyn Real Easy, 1 cewyn poced Minky, 1 gorchudd gwrth-ddŵr Nature Babies, 1 sychydd golchadwy a chanllawiau i gewynnau a ffabrig printiedig a manylion cyswllt cyflenwr cewynnau go iawn lleol.
Cynlluniau Undeb Credyd
Bydd cewynnau go iawn yn arbed arian i chi dros gyfnod ond mae angen arian i gychwyn; ffordd dda o osgoi'r gost gychwynnol hon yw benthyca gan eich undeb credyd lleol. Maen nhw'n rhoi benthyciadau cost isel at unrhyw bwrpas ac mae'n ffordd wych o brynu'r holl gewynnau go iawn sydd eu hangen arnoch heb dorri'r banc. Caiff benthyciadau eu had-dalu'n wythnosol neu'n fisol yn ôl eich dewis.
Undeb Credyd Caledfryn Cyf
I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Sir Ddinbych i'r de o'r A55. Mae'n rhaid bod gennych leiafswm o £5 yn eich cyfrif cynilion i fenthyca arian. Does dim isafswm y gallwch ei fenthyca a chaiff ad-daliadau eu teilwra yn ôl sefyllfa unigolion. Caiff pob cais am fenthyciad ei asesu yn ôl ei rinweddau ei hun.
Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 52 wythnos yn costio £4.34 yr wythnos.
Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda phob benthyciad.
Mae 3 phwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch chi hefyd dalu i Ganolfannau Un Alwad Cyngor Sir Ddinbych, trwy archeb sefydlog, cael eich budd-daliadau wedi'u talu'n syth i'ch cyfrif neu trwy'r gyflogres os ydych chi'n gweithio i'r GIG, Cyngor Sir Ddinbych neu Craig Bragdy Design.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Caledfryn Cyf, 19 Stryd Bridge, Denbigh, Sir Ddinbych, LL16 3LF. 01745 817 444.
Undeb Credyd Arfordir Clwyd Cyf,
I fod yn gymwys am fenthyciad oddi wrth yr undeb credyd mae'n rhaid i chi fyw neu weithio i'r gogledd o'r A55 o Wesbyr i Bensarn. Mae'n rhaid i chi gynilo am 6 wythnos cyn bod yn gymwys am fenthyciad. Mae 2 fath o fenthyciad ar gael wedyn. Benthyciad normal sy'n caniatáu i chi fenthyca tair gwaith eich cynilion, a 'benthyciad hwylus' sydd heb swm penodol i'w fenthyca. Caiff hyn ei farnu ar eich gallu i ad-dalu.
Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 50 wythnos yn costio £4.50 yr wythnos.
Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda phob benthyciad.
Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch chi dalu hefyd trwy archeb sefydlog, cerdyn debyd, cyflogres neu gallwch chi ddewis cael budd-dal wedi ei dalu'n syth i'ch cyfrif a gallwch naill ai codi'r arian yn y balans neu ei adael yn eich cyfrif fel cynilion.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Arfordir Clwyd Cyf, 17/19 Ty Balfor, Rhyl, Denbighshire, LL18 1AS. 01745 361274.


