Wrexham

Asiant Lleol

Mae 'Lizzies Real Nappies' wedi'i lleoli yn Nghaer, Cynnigir cymorth a chyngor am ddim i bobl Sir Wrecsam. www.lizziesrealnappies.co.uk, info@lizziesrealnappies.co.uk (01244) 346797.

Anne-Marie Ablett - Ymgynghorydd Cewynnau Golchadwy Lollipop 01928 734734 annemarieablett@hotmail.co.uk <mailto:annemarieablett@hotmail.co.uk>, www.teamlollipop.co.uk <http://www.teamlollipop.co.uk/> - ewch i’r wefan am gynigion diweddar

Sam Deacon – Asiant Lollipop Nappy yn gwasanaethu Gogledd Cymru www.teamlollipop.co.uk ffoniwch Sam am arddangosiadau yn y tŷ a manylion am Nappuccinos ar 01492 642275 neu e-bostiwch samjdeacon@hotmail.com
Tudalen Facebook www.facebook.com/pages/Lollipop-Nappies/394641446150

Maria Heyns - Keep it Real Nappies! ewch i www.keepitrealnappies.co.uk, neu e bost keepitrealnappies@gmail.com

Stocwyr Annibynnol

Bundle of Joy

36-39 Chester Street

Wrecsam

LL13 8AH

(01978) 313778

www.bundleofjoywrexham.co.uk

info@bundleofjoywrexham.co.uk

Lullaby's UK Ltd
Glendrid,
Chirk,
Wrexham
LL14 5DG
www.lullabys.co.uk

Maria Heyns - Keep it Real Nappies! ewch i www.keepitrealnappies.co.uk, neu e bost keepitrealnappies@gmail.com

Sarah Jane Plant - Daizy Babies Limited ewch i www.daizybabies.com, ffoniwch 01773 318 068 neu e bost info@daizybabies.com

Gwasanaethau Golchi

Mae Cotton Tails yn darparu gwasanaeth golchi cewynnau sy’n cynnwys Wrecsam. Byddan nhw’n dod â chyflenwad wythnosol o gewynnau i chi ac unwaith yr wythnos, byddan nhw’n dod â chewynnau glân i chi ac yn mynd â’ch cewynnau brwnt. Mae’r cewynnau sy’n cael eu darparu’n gewynnau plyg-parod ac wedi eu cynllunio i ffitio’n glyd y tu mewn i orchudd allanol gwrth-ddŵr. Hefyd, maen nhw’n darparu brandiau gwahanol o orchuddion cewyn, wedi eu dethol i roi’r ansawdd, gwydnwch a gwerth gorau. Mae gan bob gorchudd ffasninau Felcro neu bopwyr.

Mae cewynnau Cotton Tails yn cael eu golchi ar 95°C fel eu bod yn cael eu diheintio’n thermol yn llwyr. Mae’r broses gyfan gan gynnwys 3 rins terfynol yn sicrhau na fydd unrhyw gemegau garw yn cyffwrdd â chroen eich babi. Mae’r gost yn dechrau o tua £9.25 yr wythnos.

Hefyd, mae Cotton Tails yn cynnig Cit Prawf Golchi Gartre, am un taliad o £25 (£30 blaendal ad-daladwy). Gallwch ddewis hyd at 21 o gewynnau a 7 gorchudd allanol i’w defnyddio a’u golchi eich hunan yn eich cartref eich hun am bythefnos. Does dim rhwymedigaeth i brynu cewynnau ar ôl y prawf ond, gyda phob archeb, maen nhw’n cynnig eu dosbarthu am ddim o fewn eu hardal olchi.

Am fwy o fanylion am y gwasanaeth golchi neu’r citiau prawf, ffoniwch 0151 355 9914 neu ewch i www.cottontails.co.uk.

Cynllun Cymhelliol

Yn anffodus, does dim cynllun cymhellol yu yr ardal yma ar hyn o bryd.

Ysbytai Cyfeillgar i Gewynnau Go Iawn

Mae ysbyty Wrexham wedi’u cymeradwyo fel 'Ysbyty Cyfeillgar i Gewynnau Go Iawn' - byddwch yn gallu dod â’ch cewynnau go iawn eich hunan pan fyddwch chi yno os ydych chi wedi prynu eich cewynnau’n barod. Fel arall, gallwch weld pecyn arddangos o gewynnau sy’n cael ei gadw ar y wardiau i rieni ei weld. Mae’r pecyn yn cynnwys 1 cewyn plyg-parod Swaddlebees, 1 cewyn bambŵ Little Lamb, 1 cewyn Real Easy, 1 cewyn poced Minky, 1 gorchudd gwrth-ddŵr Nature Babies, 1 sychydd golchadwy a chanllawiau i gewynnau a ffabrig printiedig a manylion cyswllt cyflenwr cewynnau go iawn lleol.

Cynlluniau Undeb Credyd

Bydd cewynnau go iawn yn arbed arian i chi dros gyfnod ond mae angen arian i gychwyn; ffordd dda o osgoi'r gost gychwynnol hon yw benthyca gan eich undeb credyd lleol. Maen nhw'n rhoi benthyciadau cost isel at unrhyw bwrpas ac mae'n ffordd wych o brynu'r holl gewynnau go iawn sydd eu hangen arnoch heb dorri'r banc. Caiff benthyciadau eu had-dalu'n wythnosol neu'n fisol yn ôl eich dewis.

Undeb Credyd Bwrdeistref Sirol Wrecsam Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Does dim rhaid i chi gynilo gyda'r undeb credyd cyn gwneud cais am fenthyciad ond mae rhaid i chi gwblhau ffurflen gais a rhoi dogfennau ychwanegol yn rhoi manylion eich incwm a'ch gwariant.

Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 12 mis yn costio £4.34 yr wythnos. Cyfradd o 2% a dim trefniant na ffioedd setliad cynnar.

Caiff yswiriant bywyd am ddim ei roi gyda phob benthyciad (gydag amodau).

Gallwch ad-dalu eich benthyciad trwy archeb sefydlog, trwy eich cyflogres gyda rhai cyflogwyr (fel Cyngor Wrecsam) neu gyda'ch cerdyn aelodaeth yn Swyddfeydd Cyllid ac Ystadau'r Cyngor ledled y Fwrdeistref Sirol.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Bwrdeistref Sirol Wrecsam Cyf, 1 Arcade Gogledd, Stryd Chester, Wrecsam, LL13 8BB. 01978 266843 neu ymweled a www.wrexhamcu.co.uk