Merthyr Tydfil
Asiant Lleol
Beth Wilson - 01443 710369 / 07977151935 www.babykind.co.uk
Rebecca Emmerson - Fill Your Pants ewch i www.realnappyguru.co.uk neu e bost cardiffnappyguru@gmail.com
Gwasanaeth Golchi
South Wales Nappies
48 Lapwing Avenue
Caldicot
NP26 5RN
01291 427262 / 01291 689333
Am fwy o wybodaeth ewch i www.southwalesnappies.org.uk / www.etmoi.co.uk
Cynllun Cymhelliol
Yn anffodus, does dim cynllun cymhellol yu yr ardal yma ar hyn o bryd.
Cynlluniau Undeb Credyd
Bydd cewynnau go iawn yn arbed arian i chi dros gyfnod ond mae angen arian i gychwyn; ffordd dda o osgoi'r gost gychwynnol hon yw benthyca gan eich undeb credyd lleol. Maen nhw'n rhoi benthyciadau cost isel at unrhyw bwrpas ac mae'n ffordd wych o brynu'r holl gewynnau go iawn sydd eu hangen arnoch heb dorri'r banc. Caiff benthyciadau eu had-dalu'n wythnosol neu'n fisol yn ôl eich dewis.
Undeb Credyd Bwrdeistref Merthyr Tudful Cyf
I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae'n rhaid i bawb sydd am gael benthyciad gael cyfweliad (mae'n arfer aros 3-4 wythnos am apwyntiad) ac yna gwneir penderfyniad.
Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 45 wythnos yn costio £5 yr wythnos. (Mae cyfradd ratach o fenthyca ar gael os byddwch chi'n cynilo gyda'r undeb credyd cyn cymryd benthyciad).
Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda phob benthyciad.
Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch chi dalu hefyd trwy archeb sefydlog neu gallwch chi ddewis cael budd-dal wedi ei dalu'n syth i'ch cyfrif i dalu'ch benthyciad yn gynt neu ei adael y balans yn eich cyfrif fel cynilion.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Bwrdeistref Merthyr Tudful Cyf, 19 Park Place, Merthyr Tydfil, CF47 0DJ. 01685 377888.


