Sir y Fflint

Asiant Lleol

Lizzies Real Nappies - Mae 'Lizzies Real Nappies' wedi'i lleoli yn Nghaer www.lizziesrealnappies.co.uk, info@lizziesrealnappies.co.uk 01244 346797.

Anne-Marie Ablett - asiant lleol am Lollipop 01928 734734 annemarieablett@hotmail.co.uk, www.teamlollipop.co.uk

Sam Deacon – Asiant Lollipop Nappy yn gwasanaethu Gogledd Cymru www.teamlollipop.co.uk ffoniwch Sam am arddangosiadau yn y tŷ a manylion am Nappuccinos ar 01492 642275 neu e-bostiwch samjdeacon@hotmail.com
Tudalen Facebook www.facebook.com/pages/Lollipop-Nappies/394641446150

Rebecca Balmer - BuzzBaby ewch i www.buzzbaby.co.uk, ffoniwch 01352 741896 neu e bost becky@buzzbaby.co.uk

Maria Heyns - Keep it Real Nappies! ewch i www.keepitrealnappies.co.uk, neu e bost keepitrealnappies@gmail.com

Stocwyr Annibynnol

Maria Heyns - Keep it Real Nappies! ewch i www.keepitrealnappies.co.uk, neu e bost keepitrealnappies@gmail.com

Sarah Jane Plant - Daizy Babies Limited ewch i www.daizybabies.com, ffoniwch 01773 318 068 neu e bost info@daizybabies.com

Gwasanaethau Golchi

Mae Cotton Tails yn darparu gwasanaeth golchi cewynnau sy’n cynnwys Wrecsam. Byddan nhw’n dod â chyflenwad wythnosol o gewynnau i chi ac unwaith yr wythnos, byddan nhw’n dod â chewynnau glân i chi ac yn mynd â’ch cewynnau brwnt. Mae’r cewynnau sy’n cael eu darparu’n gewynnau plyg-parod ac wedi eu cynllunio i ffitio’n glyd y tu mewn i orchudd allanol gwrth-ddŵr. Hefyd, maen nhw’n darparu brandiau gwahanol o orchuddion cewyn, wedi eu dethol i roi’r ansawdd, gwydnwch a gwerth gorau. Mae gan bob gorchudd ffasninau Felcro neu bopwyr.

Mae cewynnau Cotton Tails yn cael eu golchi ar 95°C fel eu bod yn cael eu diheintio’n thermol yn llwyr. Mae’r broses gyfan gan gynnwys 3 rins terfynol yn sicrhau na fydd unrhyw gemegau garw yn cyffwrdd â chroen eich babi. Mae’r gost yn dechrau o tua £9.25 yr wythnos.

Hefyd, mae Cotton Tails yn cynnig Cit Prawf Golchi Gartre, am un taliad o £25 (£30 blaendal ad-daladwy). Gallwch ddewis hyd at 21 o gewynnau a 7 gorchudd allanol i’w defnyddio a’u golchi eich hunan yn eich cartref eich hun am bythefnos. Does dim rhwymedigaeth i brynu cewynnau ar ôl y prawf ond, gyda phob archeb, maen nhw’n cynnig eu dosbarthu am ddim o fewn eu hardal olchi.

Am fwy o fanylion am y gwasanaeth golchi neu’r citiau prawf, ffoniwch 0151 355 9914 neu ewch i www.cottontails.co.uk.

Cynllun Cymhelliol

Yn anffodus, does dim cynllun cymhellol yu yr ardal yma ar hyn o bryd.

Cynlluniau Undeb Credyd

Bydd cewynnau go iawn yn arbed arian i chi dros gyfnod ond mae angen arian i gychwyn; ffordd dda o osgoi'r gost gychwynnol hon yw benthyca gan eich undeb credyd lleol. Maen nhw'n rhoi benthyciadau cost isel at unrhyw bwrpas ac mae'n ffordd wych o brynu'r holl gewynnau go iawn sydd eu hangen arnoch heb dorri'r banc. Caiff benthyciadau eu had-dalu'n wythnosol neu'n fisol yn ôl eich dewis.

Undeb Credyd Sir Fflint Gyfan Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Bwrdeistref Sirol Sir Fflint. Mae'n rhaid i chi gynilo am leiafswm o 12 wythnos; byddwch wedyn yn gymwys i fenthyca tair gwaith y swm rydych chi wedi'i gynilo h.y. os byddwch wedi cynilo £50 gallech chi fenthyca hyd at £150. Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 52 wythnos yn costio £3.85 yr wythnos a llog.

Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda phob benthyciad.

Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Sir Fflint Gyfan Cyf, 2 Stryd Cross, Holywell, Clwyd, CH8 7LP. 01352 715555.

Undeb Credyd Arfordir Clwyd Cyf

I fod yn gymwys am fenthyciad oddi wrth yr undeb credyd mae'n rhaid i chi fyw neu weithio i'r gogledd o'r A55 o Wesbyr i Bensarn. Mae'n rhaid i chi gynilo am 6 wythnos cyn bod yn gymwys am fenthyciad. Mae 2 fath o fenthyciad ar gael wedyn. Benthyciad normal sy'n caniatáu i chi fenthyca tair gwaith eich cynilion, a 'benthyciad hwylus' sydd heb swm penodol i'w fenthyca. Caiff hyn ei farnu ar eich gallu i ad-dalu.

Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 50 wythnos yn costio £4.50 yr wythnos.

Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda phob benthyciad.

Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch chi dalu hefyd trwy archeb sefydlog, cerdyn debyd, cyflogres neu gallwch chi ddewis cael budd-dal wedi ei dalu'n syth i'ch cyfrif a gallwch naill ai codi'r arian yn y balans neu ei adael yn eich cyfrif fel cynilion.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Arfordir Clwyd Cyf, 17/19 Ty Balfor, Rhyl, Denbighshire, LL18 1AS. 01745 361274.