Sir Gâr
Asiantaethau Lleol
Caroline Davies - Eco Babi (01267) 275630 - Gwerthu cewynnau 'Motherease', a cyflenwyr pecyn treialu cewynnau go iawn am ddim Sir Gâr.
Nappy Go Lucky www.nappygolucky.co.uk - 07826788893 neu e bost christie@nappygolucky.co.uk
Rhian Green www.mamigreen.co.uk - (029) 20842038 / (07855) 359130 neu e bost post@mamigreen.co.uk
Stocwyr Annibynnol
Little Jems
Sycamore Street
Castell Newydd Emlyn
Dyfed
SA38 9AJ
(01239) 711188
Gwerthu 'Bambino Mio' a chewynnau terry.
Sarah Jane Plant - Daizy Babies Limited ewch i www.daizybabies.com, ffoniwch 01773 318 068 neu e bost info@daizybabies.com
Cynlluniau Cymhelliol
Cynigir Cyngor Sir Gar becyn treialu cewynnau go iawn am ddim i rieni sy'n disgwyl neu rienei newydd. mae hyn yn cynnwys arddangosfa cymorth a chyngor. am fwy o wybodaeth cysylltwch a 0845 6580445 neu ewch i www.sirgar.gov.uk
Mae’r pecynnau hyn yn cael eu dosbarthu yn ystod y Nappuccinos (boreau coffi) misol mewn 3 ardal yn Sir Gâr.
Dydd Mawrth 1af pob mis – Swyddfa Cymunedau’n Gyntaf Glan-y-Môr a Thŷ-Isha. 26-28 Stryd Inkerman, Llanelli. 10-12 yh
Dydd Mercher 1af pob mis – Neuadd Gellimanwydd, Hall Street, Rhydaman. Mae mynediad i gerbydau yn Heol Wallasey. 10-12 yh
Dydd Iau 1af pob mis – Llyfrgell Caerfyrddin, 9 Heol San Pedr, Caerfyrddin. 10-12 yh
Am ragor o wybodaeth am y sesiwn galw-i-mewn, ffoniwch Caroline ar 01267 275630 neu e-bostiwch info@ecobabi.com
Ysbytai Cyfeillgar i Gewynnau Go Iawn
Mae ysbyty Carmarthen wedi’u cymeradwyo fel 'Ysbyty Cyfeillgar i Gewynnau Go Iawn' - byddwch yn gallu dod â’ch cewynnau go iawn eich hunan pan fyddwch chi yno os ydych chi wedi prynu eich cewynnau’n barod. Fel arall, gallwch weld pecyn arddangos o gewynnau sy’n cael ei gadw ar y wardiau i rieni ei weld. Mae’r pecyn yn cynnwys 1 cewyn plyg-parod Swaddlebees, 1 cewyn bambŵ Little Lamb, 1 cewyn Real Easy, 1 cewyn poced Minky, 1 gorchudd gwrth-ddŵr Nature Babies, 1 sychydd golchadwy a chanllawiau i gewynnau a ffabrig printiedig a manylion cyswllt cyflenwr cewynnau go iawn lleol.
Cynlluniau Undeb Credyd
Bydd cewynnau go iawn yn arbed arian i chi dros gyfnod ond mae angen arian i gychwyn; ffordd dda o osgoi'r gost gychwynnol hon yw benthyca gan eich undeb credyd lleol. Maen nhw'n rhoi benthyciadau cost isel at unrhyw bwrpas ac mae'n ffordd wych o brynu'r holl gewynnau go iawn sydd eu hangen arnoch heb dorri'r banc. Caiff benthyciadau eu had-dalu'n wythnosol
neu'n fisol yn ôl eich dewis.
Undeb Credyd Llanelli
I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn ardal Llanelli. Mae'n rhaid i chi gynilo am leiafswm o 13 wythnos; byddwch wedyn yn gymwys i fenthyca dwywaith y swm rydych chi wedi'i gynilo h.y. os byddwch wedi cynilo £100 gallech chi fenthyca hyd at £200. Rhaid talu'r benthyciad cyntaf yn ôl o fewn blwyddyn. Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 52 wythnos yn costio £4.15 yr wythnos.
Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda phob benthyciad.
Mae sawl pwynt casglu yn yr ardal a gallwch chi hefyd dalu eich taliadau wythnosol neu fisol mewn Swyddfeydd Post lleol penodol.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Llanelli, 8 Stryd Bridge, Llanelli. SA15 3UF. 01554 770867.
Undeb Cerdyd Landsker
I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Sir Gaerffyrddin neu Sir Benfro. Ar ôl i chi wneud eich cais bydd yn mynd i banel a byddan nhw'n penderfynu a gaiff y benthyciad ei gymeradwyo ai peidio.
Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 12 mis yn costio £4.50 yr wythnos.
Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu gyda phob benthyciad.
Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch hefyd dalu trwy archeb sefydlog neu PayPoint.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Cerdyd Landsker, Picton Tce, Spring Gardens, Narberth. SA67 7BN. 01834 861382. Landskercreditunion@btconnect.com www.landskercreditunion.co.uk


