Caerffili
Asiantaethau Lleol
Rhian Green www.mamigreen.co.uk - 029 20 842038 / 07855 359130 neu e bost post@mamigreen.co.uk
Beth Wilson 01443 710369 / 07977 151935 www.babykind.co.uk
Catherine Lewis 01291 427262 / 01291 689333 www.onlyoneworld.co.uk / www.etmoi.co.uk
Rebecca Emmerson - Fill Your Pants ewch i www.realnappyguru.co.uk neu e bost cardiffnappyguru@gmail.com
Stocwyr Annibynnol
Sarah Jane Plant - Daizy Babies Limited ewch i www.daizybabies.com, ffoniwch 01773 318 068 neu e bost info@daizybabies.com
Gwasanaeth Golchi
South Wales Nappies
48 Lapwing Avenue
Caldicot
Monmouthshire
01291 427262 / 01291 689333
www.southwalesnappies.co.uk / www.etmoi.co.uk
Gwasaneth golchi cewynnau am £8.50 yr wythnos. Hefyd yn rhentu amrywiaeth o geynnau ar gyfer golchi gartref am £4.50 yr wythnos.
Cynllun Cymhelliol
Yn anffodus, does dim cynllun cymhellol yu yr ardal yma ar hyn o bryd.
Ysbytai Cyfeillgar i Gewynnau Go Iawn
Mae ysbyty Caerffili wedi’u cymeradwyo fel 'Ysbyty Cyfeillgar i Gewynnau Go Iawn' - byddwch yn gallu dod â’ch cewynnau go iawn eich hunan pan fyddwch chi yno os ydych chi wedi prynu eich cewynnau’n barod. Fel arall, gallwch weld pecyn arddangos o gewynnau sy’n cael ei gadw ar y wardiau i rieni ei weld. Mae’r pecyn yn cynnwys 1 cewyn plyg-parod Swaddlebees, 1 cewyn bambŵ Little Lamb, 1 cewyn Real Easy, 1 cewyn poced Minky, 1 gorchudd gwrth-ddŵr Nature Babies, 1 sychydd golchadwy a chanllawiau i gewynnau a ffabrig printiedig a manylion cyswllt cyflenwr cewynnau go iawn lleol.
Cynlluniau Undeb Credyd
Bydd cewynnau go iawn yn arbed arian i chi dros gyfnod ond mae angen arian i gychwyn; ffordd dda o osgoi'r gost gychwynnol hon yw benthyca gan eich undeb credyd lleol. Maen nhw'n rhoi benthyciadau cost isel at unrhyw bwrpas ac mae'n ffordd wych o brynu'r holl gewynnau go iawn sydd eu hangen arnoch heb dorri'r banc. Caiff benthyciadau eu had-dalu'n wythnosol neu'n fisol yn ôl eich dewis.
Undeb Credyd Caerffili
Mae Undebau Credyd yn sefydliadau nid-er-elw sy'n rhoi lle diogel a sicr i gadw benthyciadau cost isel ac i gael gafael arnyn nhw. Y lleiafswm llog sy'n cael ei godi y mis yw 2% o'r balans sy'n gostwng (APR 26.8%).
I fod yn gymwys am aelodaeth o Undeb Credyd Caerffili a'r Cylch mae'n rhaid i chi fyw neu weithio o fewn Ardaloedd Awdurdodau Lleol Caerffili neu Flaenau Gwent. Caiff Undebau Credyd eu cymeradwyo a'u rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA).
£4.34 yw'r ad-daliad dros 52 wythnos ar fenthyciad o £200, gyda chyfanswm llog o £25.38 os na chollir unrhyw ad-daliad.
Gall aelodau wneud taliadau yn y brif swyddfa yng Nghaerffili, Pwyntiau Casglu sydd i'w cael ledled y Bwrdeistrefi, Archebion Sefydlog, PayPoint, Budd-daliadau yn uniongyrchol i'ch Cyfrif Undeb Credyd a Swyddfeydd Ariannol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Caerffili, Ty ABACUS, 44 Stryd Windsor, Caerffili, CF83 1FW. 029 2088 3751.
Undeb Credyd Cymuned Islwyn Cyf - Rhoi Pobl cyn Elw
Os ydych chi'n byw neu'n gweithio yn etholaeth Islwyn yn ne Cymru (Markham, Cefn Fforest, Y Coed Duon, Pontllan-fraith, Crymlyn, Trecelyn, Crosskeys, Rhisga) rydych chi'n gymwys i ymuno ag Undeb Credyd Cymuned Islwyn.
Ar ôl cynilo'n gyson dros leiafswm o 3 mis gallwch chi wneud cais am fenthyciad. Mae benthyciadau cyntaf hyd at ddwywaith eich cynilion. Os ydych chi wedi cynilo £100 gallwch chi fenthyca hyd at £200. Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 a gaiff ei ad-dalu dros 52 wythnos yn costio £4.10 yr wythnos.
Caiff yswiriant bywyd am ddim ei ddarparu ar gynilion a benthyciadau.
Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref ac mae dulliau eraill o dalu.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Cymuned Islwyn Cyf, Adeilad Undeb Credyd, Heol Wesley, Blackwood, NP12 1BA. 01495 222832
Undeb Credyd Bargoed, Aberbargoed a Gilfach Cyf
I fod yn gymwys am fenthyciad gan yr undeb credyd mae rhaid i chi fyw neu weithio o fewn ardal Bargoed, Aberbargoed, Gilfach neu Britannia. Mae'n rhaid i chi gynilo am leiafswm o 13 wythnos; byddwch wedyn yn gymwys i fenthyca dwywaith y swm rydych chi wedi'i gynilo h.y. os byddwch wedi cynilo £100 gallech chi fenthyca hyd at £200. Bydd benthyciad nodweddiadol o £200 heb ei warantu a gaiff ei ad-dalu dros 43 wythnos yn costio o gwmpas £5 yr wythnos.
Mae yswiriant bywyd ar gael ar gynilion a benthyciadau undeb credyd heb gost ychwanegol.
Mae sawl pwynt casglu yn y Fwrdeistref lle gallwch chi dalu eich taliadau wythnosol neu fisol. Gallwch chi hefyd dalu mewn swyddfeydd post ac allfeydd arall â cherdyn pwynt talu, Archebion Sefydlog neu trwy'r gyflogres.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Undeb Credyd Bargoed, Aberbargoed a Gilfach Cyf, 47 Stryd Commercial, Aberbargoed, CF81 9BT. 01443 838605 bagcredunion@aol.com


